• News

Gwella Cynllunio Gofal a Thriniaeth yng Nghymru

Gwella Cynllunio Gofal a Thriniaeth yng Nghymru

Bwriedir i gynlluniau gofal a thriniaeth (GCT) ddarparu strwythur, dilyniant, a chefnogaeth person-ganolog ar gyfer pobl sy’n mynd i mewn i wasanaethau gofal iechyd meddwl eilaidd. Mewn realiti, mae gweithrediad cynllunio gofal a thriniaeth yn anghyson. Gall cynlluniau ddod yn weithdrefnol yn hytrach nac yn ystyrlon, wedi’u datgysylltu o anghenion pobl, ac yn dibynnu yn ormodol ar systemau sy’n rhy ddarniog sydd ddim yn cyfathrebu’n effeithiol gyda’r naill a’r llall, sy’n golygu eu bod yn aml yn cael eu gadael yn anghyflawn.

I bobl sydd yn byw gyda salwch meddwl difrifol, anghenion sy’n cyd-ddigwydd neu anghenion cymhleth, gall cydlyniad gwael rhwng gwasanaethau arwain i ailadrodd asesiadau, gwybodaeth anghyson, oedi yn y gefnogaeth, a diffyg eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth. Hefyd, mae gofyn yn aml i bobl ailadrodd yr un wybodaeth i nifer o weithwyr proffesiynol ar draws gwahanol wasanaethau, tra gall gofalwyr ac aelodau’r teulu barhau i fod wedi eu gadael allan o’r sgyrsiau ynghylch cynllunio yn gyfan gwbl, er eu bod yn aml yn chwarae rôl ganolog i ddarparu cefnogaeth.

Fel rhan o’n hymgyrch yn ffocysu ar gryfhau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru, credai Adferiad y dylid deall CGT fel cyfle allweddol i wella cydlyniad, ymyrraeth gynnar, a deilliannau tymor hir. Mae cynllunio gofal effeithiol yn ddibynnol ar ymddiriedaeth, dilyniant, a chyfathrebu rhwng gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr, a’r person sy’n derbyn cefnogaeth. Heb hyn, mae perygl i’r cynlluniau fod yn ddogfennau goddefol yn hytrach nac offer ymarferol sy’n helpu unigolion i lywio adferiad a chefnogaeth.

Un o’r heriau parhaus o fewn y system bresennol yw’r diffyg cydlyniad annibynnol. Ble mae’r cyfrifoldeb am gynllunio gofal yn eistedd o fewn gwasanaethau statudol sy’n gor-ymestyn, gall cydlyniad ddod yn anghyson a chael ei ddylanwadu’n drwm gan bwysau’r gwasanaeth neu ffiniau sefydliadol. Gallai cydlynwyr CGT annibynnol wedi eu lleoli o fewn sefydliadau trydydd sector helpu i gryfhau dilyniant, eiriolaeth, a chyfathrebu ar draws asiantaethau tra’n darparu ymagwedd mwy person-ganolog  i gydlyniad. Yn aml, mae sefydliadau trydydd sector mewn sefyllfa dda i adeiladu perthnasoedd dibynadwy, i adnabod bylchau yn y gefnogaeth, ac i weithio ar draws ffiniau sefydliadol mewn  ffyrdd y gall darparwyr statudol gael anhawster i’w gyflawni ar eu pen eu hunain.

Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol hefyd o’r angen am ymagwedd “dywedwch wrthym unwaith” mwy cyd-gysylltiedig ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gallai gwell rhannu data a gwell cyfathrebu rhwng gwasanaethau leihau dyblygiad, atal oediadau, a lleihau’r pwysau a roddir ar bobl yn esbonio eu hamgylchiadau mewn amseroedd o gyfyngder neu argyfwng. Dylai cydlyniad symleiddio mynediad i gefnogaeth yn hytrach nac ychwanegu cymhlethdod pellach i sefyllfaoedd sydd eisoes yn anodd.

Dylai cynllunio gofal a thriniaeth hefyd gydnabod rôl gofalwyr di-dal yn well. Yn aml, mae gan ofalwyr wybodaeth a mewnwelediad sylweddol i anghenion, risgiau, arferion, a llesiant y bobl maent yn eu cefnogi, eto mae llawer ohonynt yn dal i adrodd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan o’r prosesau gwneud penderfyniadau. Gall cynnwys gofalwyr mewn modd ystyrlon – tra’n cydbwyso cydsyniad, cyfrinachedd, a diogelu yn briodol – wella deilliannau ar gyfer gofalwyr, yn ogystal â’r person sy’n derbyn cefnogaeth. Dylid cydnabod prosesau cynllunio gofal hefyd fel cyfle pwysig i adnabod gofalwyr yn gynnar, i sicrhau eu bod yn cael eu cysylltu i’r gefnogaeth gywir ar eu cyfer nhw yn ogystal â’r rhai maent yn gofalu amdanynt.

Ar y cyfan, byddai cydlyniad cryfach, ynghyd â chyfathrebu cliriach a chydweithrediad ystyrlon yn helpu i sicrhau bod cynllunio gofal a thriniaeth yn gweithredu fel proses ymarferol sy’n rhoi’r person yn ganolog, ac yn cefnogi dilyniant, adferiad, a sefydlogrwydd yn hytrach na dim ond cyflawni gofynion gweithdrefnol.

See similar stories

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026
  • News

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute
  • News
  • Training

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×