• News

Mwy na Logo Newydd: Y Meddwl y Tu Cefn i Frand Newydd Adferiad

Mwy na Logo Newydd: Y Meddwl y Tu Cefn i Frand Newydd Adferiad

Yn aml, logo newydd yw’r peth cyntaf mae pobl yn sylwi arno pan mae sefydliad yn ail-frandio, ond i Adferiad mae’r newidiadau’n llawer dyfnach na hynny.

Mae’r brand newydd yn adlewyrchu sut mae Adferiad wedi tyfu dros y blynyddoedd ac yn cynrychioli y bobl, y cymunedau, a’r gwasanaethau mae’n eu cefnogi heddiw yn well.

I Donna Chaves, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Adferiad, roedd yr ail-frandio yn ymwneud â sicrhau bod hunaniaeth Adferiad yn adlewyrchu’r sefydliad fel y mae heddiw.

"Mae Adferiad wedi esblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd, felly roeddem yn teimlo bod angen i’n brand esblygu gyda ni," meddai Donna. "Nawr, rydym yn cefnogi miloedd o bobl ar draws Cymru a thu hwnt, ac mae wedi dod yn gynyddol bwysig bod ein hunaniaeth yn adlewyrchu y sefydliad yr ydym heddiw. Yn y pen draw, os nad yw pobl yn gwybod ein bod yn bodoli, ni allent gael mynediad i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Roedd hyn yn ymwneud â gwneud Adferiad yn fwy gweladwy, yn fwy adnabyddadwy ac yn fwy hygyrch i’r bobl sydd ein hangen."

Un o’r newidiadau mwyaf yw ‘A’ newydd Adferiad. Tra mae’n hunaniaeth weledol ffres, dywed Donna ei fod hefyd yn cario neges bwysig.

"Mae ein ‘A’ newydd yn llawer mwy na marc brand: mae’n symbol o pwy ydyn ni. Mae ein ‘A’ yn siâp sy’n llifo, sy’n adlewyrchu un o’n credoau craidd – nad yw bywyd ac adferiad wastad yn unionsyth. Mae’r ‘A’ yn adlewyrchu’r siwrnai unigryw hynny a’n hymrwymiad i gefnogi pobl ym mhle bynnag y maent ar eu siwrnai, pryd bynnag y maent angen cefnogaeth.”

Mae’n neges sy’n adlewyrchu realiti y bobl mae Adferiad yn gweithio gyda hwy bob dydd. Yn anaml y mae bywyd yn dilyn llwybr syth, ac mae adferiad yn edrych yn wahanol i bawb. Tra mae ein hymddangosiad wedi newid, nid yw ein pwrpas wedi newid.

"Nid yw’r ail-frandio yn newid beth rydym yn ei wneud, na pham rydym yn ei wneud," meddai Donna. "Bydd pobl yn parhau i dderbyn yr un gefnogaeth dosturiol, sy’n canolbwyntio ar y person, gan yr un timau ymroddedig. Yr unig beth sydd wedi newid yw’r ffordd rydym yn cyflwyno ein hunain."

Nid yw’r ail-frandio yn ymwneud â newid pwrpas Adferiad: mae’n ymwneud â sicrhau bod hunaniaeth y sefydliad yn adlewyrchu’r gwaith sydd wastad wedi bod yn ganolog iddi a galluogi pobl i ddod o hyd i ni yn gyflymach ac yn haws.

Mae Donna’n gobeithio y bydd yr edrychiad newydd yn annog pobl i weld Adferiad fel ffynhonnell gefnogaeth ddibynadwy pan maent ei hangen.

Pan ofynnwyd sut y byddai llwyddiant yn edrych, ychydig sydd gan ateb Donna i wneud â’r brandio ei hun.

"Os yw mwy o bobl yn gweld eu hunain wedi eu hadlewyrchu yn ein brand, ac felly’n ceisio am gefnogaeth gennym, yna rydym wedi llwyddo. Rydym eisiau i bobl adnabod nad yw adferiad yn linell syth nac yn lwybr perffaith. Os yw ein neges yn annog rhywun i estyn allan neu’n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gweld, dyna beth yw llwyddiant."

I Donna, un o uchafbwyntiau’r ail-frandio oedd gweld y sgyrsiau sydd wedi deillio o’r hunaniaeth newydd.

"Fy hoff beth yw fod ganddo ystyr. Nid yw hyn ddim ond am logo; mae’n dechrau sgyrsiau. Bob tro mae rhywun yn gofyn pam ei fod yn edrych fel y mae, rydym yn cael siarad am rhywbeth sydd yn bwysig go iawn – nad yw bywyd yn llinol, ac mae hynny’n iawn."

Os oes yna un peth y mae Donna’n gobeithio y bydd pobl yn ei gofio am frand newydd Adferiad, yr ystyr y tu cefn i’r ‘A’ newydd yw hynny.

"Nid yw bywyd, ac adferiad, yn unionsyth ac felly nid ydym ni chwaith. Mae ein siwrnai ni i gyd yn wahanol. Mae adferiad yn edrych yn wahanol i bawb. Yn Adferiad, rydym yma i gefnogi pobl drwy’r holl droadau."

Mae’r ail-frandio’n nodi pennod newydd i Adferiad, ac ymrwymiad o’r newydd i’w gweledigaeth a’i chenhadaeth. Am 50 mlynedd, mae’r elusen wedi sefyll ochr yn ochr â phobl a effeithir gan salwch meddwl, defnydd sylweddau, niweidiau gamblo, a heriau cymhleth eraill, gan ddarparu cefnogaeth dosturiol, person-ganolog, a hyrwyddo profiad byw. Wrth i’r galw am ein cefnogaeth barhau i gynyddu, mae’r hunaniaeth newydd yn ymwneud â sicrhau bod hyd yn oed mwy o bobl yn gwybod bod Adferiad yma, yn gwybod ym mhle i ddod o hyd i help, ac yn gwybod nad oes rhaid iddynt byth wynebu heriau bywyd ar eu pen eu hunain.

I ddarganfod mwy am ein cefnogaeth, cliciwch yma os gwelwch yn dda: https://www.adferiad.org/support-and-advice/ 

See similar stories

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×