Ar gyfer beth mae cefnogaeth Iechyd meddwl a llesiant?

Gall iechyd meddwl a llesiant effeithio ar sut rydym yn meddwl, yn teimlo, ac yn ymdopi gyda bywyd bob dydd. Ar adegau, gallai pobl brofi gorbryder, hwyliau isel, straen, neu ofid emosiynol a all deimlo’n anodd i reoli, yn enwedig pan maent wedi eu cyfuno gyda heriau eraill bywyd.

Mae yna angen cynyddol am gefnogaeth hygyrch a thosturiol, oherwydd y gall iechyd meddwl gwael gael effaith sylweddol ar berthnasoedd, iechyd corfforol, gwaith, ac ansawdd bywyd yn gyffredinol. Pan na ddelir â’r meddyliau a’r teimladau hyn, gallent ddod yn llethol iawn gydag amser.

Sut mae cefnogaeth Iechyd meddwl a llesiant yn gweithio

Yn Adferiad, darparwn ofod diogel, cefnogol ac anfeirniadol ble gall unigolion archwilio sut i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Mae ein hymagwedd berson-ganolog yn ffocysu ar yr unigolyn, yn eu helpu i adeiladu gwytnwch, i wella strategaethau ymdopi, ac i weithio tuag at fywyd iachach a chytbwys. Cynigiwn amrywiaeth eang o wasanaethau ar draws Cymru sy’n cefnogi unigolion i gynnal eu hiechyd meddwl a’u llesiant, yn ogystal â’r rhai sy’n profi salwch meddwl difrifol neu mewn risg o argyfwng iechyd meddwl. Mae ein gwasanaethau’n cynnwys gefnogaeth ymyrraeth gynnar, gofodau noddfa diogel i rai sydd mewn risg o argyfwng, hybiau cefnogaeth galw i mewn, a gweithgareddau ymgysylltiad cymunedol. Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant yma.


Os oes gennych Nyrs Seiciatrig Gymunedol neu Weithiwr Cymdeithasol rydych yn gweithio gyda nhw, argymhellwn eich bod yn cysylltu gyda nhw

Sut i gael cefnogaeth ychwanegol ar gyfer Iechyd meddwl a llesiant

  • Therapïau Siarad GIG Cymru – cwnsela a therapi ar gyfer gorbryder, iselder, a straen (hunan-atgyfeiriad yn aml)
  • GIG 111 (pwyswch 2) – cefnogaeth a chyngor iechyd meddwl brys 24/7.
  • Meddygon teulu – atgyfeiriad i wasanaethau a thriniaeth iechyd meddwl lleol.
  • Mind Cymru – gwasanaethau lleol cefnogaeth, cyngor, a llesiant.
  • Samaritans – cefnogaeth emosiynol a llinell gymorth argyfwng ar gael 24/7 i unrhyw un mewn gofid (116 123).
  • Llinell gymorth C.A.L.L. (Cymru) – cyngor iechyd meddwl, gefnogaeth gwrando, ac arwyddbostio (0800 132 737 neu neges testun “HELP” i 81066).
  • Gwasanaethau llesiant cymunedol – grwpiau, cyrsiau, a chefnogaeth adferiad.

 

Os ydych chi’n teimlo na allwch gadw eich hun yn ddiogel, eich bod mewn perygl nawr, neu eich bod yn profi argyfwng iechyd meddwl, ffoniwch 999 neu ewch i’ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) agosaf.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×