• Carers
  • Adferiad

Dathlu 32 Mlynedd o Wasanaeth: Mae Karen Edwards yn Pensiynu o Adferiad

Dathlu 32 Mlynedd o Wasanaeth: Mae Karen Edwards yn Pensiynu o Adferiad

“Gall y camau bach rydych chi’n eu cyflawni i helpu rhywun gyda salwch meddwl difrifol wneud y byd o wahaniaeth i frwydro yn erbyn unigrwydd ac ynysiad.”

Y mis hwn, mae Adferiad yn ffarwelio gyda chydweithiwr ymroddedig y mae ei 32 mlynedd o wasanaeth wedi cael effaith barhaol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws Gogledd Cymru.

Ymunodd Karen Edwards â’r sefydliad i ddechrau ym 1994, pan oedd yn cael ei adnabod fel y National Schizophrenic Fellowship. Dechreuodd ei gyrfa fel Nyrs Ardal yn Sir y Fflint, ac fe sylweddolodd yn fuan iawn bod llawer o bobl yn byw gyda heriau iechyd meddwl difrifol ac anghenion oedd yn cyd-ddigwydd, yn aml yn profi unigrwydd ac ynysiad heb gefnogaeth ddigonol.

Gweithiodd Karen o fewn cefnogaeth gofalwyr i ddechrau, cyn symud ymlaen i ddod yn Reolwr Sirol Gogledd Ddwyrain Cymru, gan gefnogi rhwydwaith gofalwyr Adferiad ar draws y rhanbarth. Yn ystod y cyfnod hwn, fe helpodd i sefydlu grwpiau gofalwyr yn Y Rhyl, Llangollen a Sir y Fflint, tra hefyd yn cefnogi’r grŵp gwreiddiol yn Wrecsam. Roedd ei hangerdd a’i hymrwymiad i helpu eraill yn amlwg.

Yn nes ymlaen, aeth Karen ymlaen i reoli’r gwasanaeth Cefnogaeth Tenantiaeth Allgymorth Wrecsam (‘WOTS’), gan gefnogi unigolion gydag anghenion iechyd meddwl ac/neu ddefnydd sylweddau i fyw’n annibynnol o fewn y gymuned. Yn dilyn llwyddiant WOTS, daeth comisiynwyr yn Sir y Fflint at Adferiad i ddatblygu prosiect tebyg, gan arwain at greu’r gwasanaeth Cefnogaeth Tenantiaeth Allgymorth Sir y Fflint (‘FOTS’).

Wrth fyfyrio ar foment allweddol yn ei gyrfa, dywedodd Karen:

“Fe ffoniodd Alun fi un diwrnod, i ddweud y byddwn yn cymryd drosodd dau dŷ byw â chefnogaeth yn ardal Wrecsam ar gyfer pobl gyda salwch meddwl difrifol ac anghenion oedd yn cyd-ddigwydd.

“I ddechrau, roeddwn yn bryderus, doeddwn i ddim yn siŵr, ond fe wnaeth fy sicrhau y byddai gennyf help, ac fe ddysgodd Rhiannon Luke bopeth yr oeddwn angen ei wybod i mi.”

Dros y blynyddoedd, fe ehangodd cefnogaeth tai yn Wrecsam i bedwar tŷ, gyda chefnogaeth gan dîm ymroddedig yn ymrwymedig i ddarparu gofal gyfannol, person-ganolog. Gweithiodd Karen hefyd yn agos gyda chomisiynwyr i adnabod bylchau mewn gwasanaethau cefnogol, gan helpu Adferiad i sicrhau cyllid ar gyfer prosiect peilot i gefnogi pobl oedd yn ddigartref neu mewn risg o ddigartrefedd. Ers hynny, mae’r prosiect wedi tyfu, gyda thri aelod staff yn gweithio arno’n bresennol.

“Mae Adferiad yn eich herio i dyfu, a thrwy’r blynyddoedd, rydw i wedi tyfu gyda’n nghydweithwyr,” meddai.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa, mae Karen yn tynnu sylw at y perthnasoedd mae hi wedi eu hadeiladu fel yn o’r cyflawniadau mae hi’n fwyaf balch ohono.

“Pan dderbyniais i’r Grŵp Gofalwyr Wrecsam i ddechrau, mae pump o’r aelodau o’r grŵp gwreiddiol hwnnw yn dal i gael mynediad i’r gwasanaeth 32 mlynedd yn ddiweddarach.

“Rwy’n mynd i ffarwelio â’r grŵp hwnnw ddydd Iau yma, ac mi fydd yn ddiwrnod emosiynol.

“Rwyf wedi pasio’r baton ymlaen i gydweithiwr da iawn ac rwy’n gwybod y byddant mewn dwylo diogel.”

Fe ychwanegodd:

“Rwyf wedi mwynhau gwylio pobl yn tyfu trwy gydol hanes Adferiad. Yr ymdeimlad o gyflawniad mae ein staff yn ei gael pan mae’r bobl maent yn eu cefnogi’n llwyddo, mae’n hyfryd.”

“Unwaith mae rhywun yn gadael ein cefnogaeth, rydym wastad wedi gweithredu polisi drws agored ble byddwn yn cefnogi pobl os ydynt mewn trafferth, ac rydym wedi cael dipyn o achosion ble mae hynny wedi digwydd. Rwy’n falch ein bod ni yno i gefnogi pan mae ei angen.”

Mae amser Karen yn Adferiad hefyd wedi cynnwys rhai cyflawniadau personol cofiadwy a heriau codi arian. Ym 1997, cwblhaodd Farathon Llundain, gan jocian “peidiwch â gofyn am yr amser”. Yn ddiweddarach, bu’n beicio o Ogledd i Dde Cymru ochr yn ochr â chydweithwyr a chleientiaid i godi ymwybyddiaeth mewn iechyd meddwl, gan orffen y daith yn y Senedd. Bu hefyd yn cefnogi cleientiaid WOTS i berfformio ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – er, fel dywedodd Karen, “nad wyf yn medru canu.”

Bydd Karen yn gadael Adferiad ar 28 Mai, gan fynd ag etifeddiaeth o dosturi, ymroddiad, ac ymrwymiad i helpu eraill gyda hi.

Dymunai bawb yn Adferiad ymddeoliad hapus i Karen Edwards a diolch iddo am ei chyfraniad anhygoel dros y 32 mlynedd diwethaf.

See similar stories

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?
  • Adferiad

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?

Arolygon Only Human – Cael Dweud Eich Dweud a Rhannu Gydag Eraill
  • Adferiad

Arolygon Only Human – Cael Dweud Eich Dweud a Rhannu Gydag Eraill

Llety â Chefnogaeth: Gofal Pwrpasol a Chydgysylltiedig yn yr 21ain Ganrif
  • Adferiad

Llety â Chefnogaeth: Gofal Pwrpasol a Chydgysylltiedig yn yr 21ain Ganrif

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×