Lluniau Polaroid o Michael Sheen sydd wedi eu llofnodi ar gael mewn arwerthiant i gasglu arian i Adferiad Recovery!

Mae’r White Curl, sef mudiad nid er elw sydd yn casglu arian i elusennau Cymreig, yn mynd i werthu casgliad anhygoel o luniau Polaroid o’n Llysgennad Michael Sheen er budd Adferiad Recovery!

Mae’r lluniau Polaroid unigryw yma o Sheen ar gael ar ôl iddynt gael eu tynnu yn Llundain yng Ngorffennaf 2021. Bydd pob un arwerthiant yn cynnwys eitemau ychwanegol fel lluniau, rhaglenni wedi eu llofnodi a fideos o’r lluniau Polaroid yn cael eu tynnu a’u llofnodi.

Bydd 100% o’r arwerthiant yn mynd i Adferiad Recovery.

Mae’r White Curl yn cyhoeddi’r lotiau mewn tair rhan:

  • 3 lot yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 7fed Awst 2021 am 5:00pm BST
  • 4 lot yn dechrau ar ddydd Llun, 9fed Awst, 2021 am 5:00pm BST
  • 5 lot yn dechrau ar ddydd Mercher, 11eg Awst, 2021 am 5:00pm BST

Bydd y lotiau ar gyfer pob arwerthiant yn dod i ben ar yr un diwrnod: sef dydd Sadwrn, 14eg Awst, 2021 am 5:00 PM BST.

Am fwy o wybodaeth ac er mwyn rhoi cynnig ar yr eitemau hynod unigryw yma, ewch os gwelwch yn dda i: https://www.thewhitecurl.com/michaelsheenpolaroids.

See similar stories

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl
  • Mental Health & Wellbeing

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?
  • Adferiad

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw
  • Counselling
  • Mental Health & Wellbeing
  • Crisis Services

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×