Blog Jo: Mesur Iechyd Meddwl Cymru

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn medru defnyddio’r pwerau sydd eisoes ganddi

Felly, mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r Deddf Iechyd Meddwl yn bwrw rhagddynt: maent wedi addo Mesur Iechyd Meddwl er nad oes yna ddyddiad pendant ar gyfer hyn – ond roedd yn rhan o Araith y Frenhines, ac felly, mi ddylai gael ei gyflwyno yn ystod y sesiwn hon o’r Senedd.

Yn y cyfamser, nid oes unrhyw addewid neu argoel fod yna ddeddfwriaeth debyg i’w chyflwyno yng Nghymru. Os nad yw hyn yn newid, efallai mai’r hyn a welwn ni yw Cymru yn dilyn trywydd Lloegr ac yn manteisio ar y Mesur yn y Senedd yn San Steffan drwy fod yn rhan o’r broses honno, yn hytrach na’n ceisio gwella pethau neu’n teilwra’r gyfraith ar gyfer ein hanghenion penodol ni.

Yn y cyfamser, rwy’n nodi fod Llywodraeth Cymru yn eiddgar i gael mwy o bwerau gan San Steffan, yn enwedig o ran materion cyfiawnder – mae syniadau Llywodraeth Cymru ar gael i’w gweld yma.

Nawr, mae hyn yn ddiddorol. Byddai’n dda i weld Cymru yn ceisio mynd i’r afael gyda’r sgandal o ddanfon pobl ag afiechyd meddwl difrifol i’r carchar (os ydynt yn beryglus, dylent gael eu dal mewn ysbyty). A byddai’n gwneud synnwyr i gysylltu maes fel cyfiawnder troseddol gyda meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli, fel iechyd.

Ond hoffem awgrymu rhywbeth wrth Lywodraeth Cymru. Os ydych am gael mwy o bwerau, yna dangoswch eich bod yn rhagweithiol gyda’r pwerau sydd gennych eisoes yn hytrach na’n gadael i San Steffan i wneud pethau.

Ydw, rwy’n sôn am Fesur Iechyd Meddwl i Gymru! Ac os ydych angen ambell syniad, yna ewch i ddarllen Cyfraith Jo

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl sydd wedi ei heffeithio gan y Ddeddf Iechyd Meddwl am fwy na 30 mlynedd. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; roedd ychydig o’r driniaeth honno’n hynod annymunol ac wedi ei dychryn. Mae Jo yn ymgyrchu o blaid Deddf Iechyd Meddwl flaengar sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – Deddf sydd yn rhoi bargen fwy teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt.

See similar stories

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl
  • Mental Health & Wellbeing

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?
  • Adferiad

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw
  • Counselling
  • Mental Health & Wellbeing
  • Crisis Services

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×