I lawer o bobl, gall cael eu harestio neu eu cyfweld gan yr heddlu fod yn brofiad brawychus a dryslyd. Ond i rhywun sydd ag anabledd dysgu, awtistiaeth, ADHD, dementia, anaf ymennydd caffaeledig, salwch meddwl sylweddol, nam gwybyddol neu anawsterau cyfathrebu, gall y profiad fod yn llethol iawn.
Dyma ble mae’r Gwasanaeth Oedolyn Priodol yn chwarae rôl hanfodol.
Mae Angelika Pastuszko, Rheolwr Gwasanaeth Oedolyn Priodol yn Adferiad, yn goruchwylio darpariaeth ar draws ardaloedd Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, a Heddlu Gwent. Mae ei thîm o tua 100 o Oedolion Priodol sesiynol yn darparu amddiffyniad hanfodol ar gyfer pobl sydd yn agored i niwed sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.
Beth yw Oedolyn Priodol?
Mae Oedolyn Priodol yn amddiffyniad annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw neu’n cael eu cyfweld yn wirfoddol gan yr heddlu. Mae’r rôl yn cael ei hadnabod o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) ac yn bodoli i helpu i sicrhau bod pobl a allai gael anhawster deall beth sy’n digwydd yn cael eu trin yn deg ac yn gallu cymryd rhan yn effeithiol yn y broses.
Yn bwysig, nid yw Oedolion Priodol yno ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu yn unig. Gall bod yn agored i niwed ddod mewn nifer o wahanol ffurfiau ac nid yw’n weledol yn syth bob amser. Efallai bod gan rhywun awtistiaeth, ADHD, dementia, salwch meddwl neu gyflwr arall sy’n effeithio ar eu gallu i ddeall, i gyfathrebu neu i ymdopi gyda’r pwysau o fod yn nalfa’r heddlu. Weithiau, ni ddaw bod yn agored i niwed i’r amlwg tan mae swyddog yn dechrau siarad gyda rhywun.
Felly, fe ellir bod angen Oedolyn Priodol pan mae rhywun yn cael eu harestio a’u cymryd i ddalfa’r heddlu, ond efallai y byddant hefyd yn cymryd rhan yn ystod cyfweliadau gwirfoddol neu mewn gweithdrefnau archwiliol eraill.
Mwy na dim ond eistedd i mewn yn ystod cyfweliad
Mae yna gamsyniad cyffredin mai dim ond eistedd wrth ochr rhywun yn ystod cyfweliad gyda’r heddlu mae Oedolyn Priodol. Mae eu rôl yn cychwyn yn llawer cynharach ac yn parhau trwy gydol amser y person yn y ddalfa.
Maent yn esbonio eu rôl, yn helpu’r unigolyn i ddeall pam eu bod yno, ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn deall eu hawliau. Yn ystod cyfweliad, maent yn monitro’r cyfathrebu a llesiant, gan ofyn am i gwestiynau neu wybodaeth gael eu hesbonio’n wahanol os yw rhywun yn ymddangos yn gymysglyd neu ddim yn deall. Gallent hefyd godi pryderon os ydynt yn credu bod y person yn drallodus neu nad yw gweithdrefnau’n cael eu dilyn yn briodol.
Mae hefyd yn bwysig deall nad cyfreithiwr yw Oedolyn Priodol. Tra mae cyfreithiwr yn darparu cyngor cyfreithiol ac yn diogelu hawliau cyfreithiol person, mae Oedolyn Priodol yn ffocysu ar gyfathrebu, dealltwriaeth a llesiant. Mae’r ddwy rôl yn wahanol ond yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd i helpu i sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn derbyn cefnogaeth briodol a chynrychiolaeth gyfreithiol.
Pam mae’r gwasanaeth yn bwysig?
Gall y gwahaniaeth mae Oedolyn Priodol yn ei wneud fod yn enfawr.
I rhywun sy’n bryderus neu wedi’u llethu, gall cael rhywun yno sydd â’r rôl o sicrhau eu bod yn deall beth sy’n digwydd roi tawelwch meddwl iddynt. Gall Oedolion Priodol helpu i atal camddealltwriaethau, lleihau rhagdybiaethau anghywir ynghylch ymddygiad rhywun a galluogi pobl i ymgysylltu’n fwy hyderus gyda’r broses. Weithiau, gall addasiadau bach mewn cyfathrebu wneud gwahaniaeth sylweddol.
Yn bwysicaf un, efallai, mae’r gwasanaeth yn herio’r gamdybiaeth bod angen Oedolyn Priodol yn golygu bod rhywun â diffyg galluedd neu ddeallusrwydd. Gall bod yn agored i niwed fod yn anweledig neu’n sefyllfaol. Fe allai person lwyddo’n hollol iawn gyda sgyrsiau dydd i ddydd ond cael anhawster gyda iaith gyfreithiol gymhleth, straen neu gyfathrebu mewn amgylchedd heddlu.
Fel mae Angelika’n esbonio, “Ni ddylai bod yn agored i niwed byth ddod yn rhwystr i gyfiawnder.”
Mae pawb yn haeddu deall beth sy’n digwydd iddynt, i’w llais gael ei glywed, ac i gael eu trin yn deg, ni waeth eu hanabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anghenion cyfathrebu.
Efallai mai gweithio’n dawel y tu ôl i’r llen mae’r Gwasanaeth Oedolyn Priodol, ond mae ei effaith yn sylweddol. Trwy gefnogi dealltwriaeth, urddas a thegwch, mae Oedolion Priodol yn helpu i sicrhau nad yw bod yn agored i niwed yn atal rhywun rhag cael mynediad cyfartal i gyfiawnder.