• Blog

Deddf Iechyd Meddwl Fodern

Deddf Iechyd Meddwl Fodern

Mae dealltwriaeth y cyhoedd o iechyd meddwl a defnydd sylweddau wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, ynghyd â thwf mewn cydnabyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng anghenion cymhleth eraill. Mae gwasanaethau ar draws Cymru yn symud yn gynyddol tuag at gefnogaeth sy’n ataliol sydd yn berson-ganolog ac yn ystyriol o drawma. Er hynny, nid yw’r fframwaith ddeddfwriaethol o gwmpas iechyd meddwl a defnydd sylweddau wedi esblygu ar yr un cyflymder. Mae pobl sydd â salwch meddwl difrifol neu anghenion defnydd sylweddau sy’n cyd-ddigwydd yn parhau i lywio systemau a all deimlo’n ddarniog, yn anghyson, ac yn anodd i’w deall, gyda dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol wedi eu lledaenu ar draws nifer o feysydd o’r gyfraith a gwasanaethau cyhoeddus.

Dyma pam rydym yn ymgyrchu dros ymrwymiad i adolygu ac i gryfhau deddfwriaeth iechyd meddwl trwy ddatblygiad Deddf Iechyd Meddwl Cymru. Gall y dulliau presennol adael pobl yn symud rhwng systemau datgysylltiedig, yn enwedig ble mae iechyd meddwl a defnydd sylweddau yn croestorri. Er y gorgyffyrddiad amlwg rhwng y materion hyn, mae gwasanaethau a fframweithiau cyfreithiol yn aml yn parhau i weithredu ar wahân, gan gyfrannu tuag at oediadau, dryswch, a chefnogaeth anghyson.

Rydym hefyd yn galw am i iechyd meddwl a defnydd sylweddau gael eu cydnabod fel blaenoriaethau iechyd cyhoeddus, yn hytrach na materion y delir â hwy yn bennaf drwy ymagweddau cyfiawnder troseddol. Dylid adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli’n bresennol a’i alinio yn well i greu fframwaith sy’n fwy cydlynol ac yn fwy hygyrch sy’n gwella hawliau pobl, yn lleihau cymhlethdod, ac yn cefnogi ymagweddau mwy integredig i ofal. Dylai’r diwygio hefyd sicrhau bod yr amddiffyniadau lleiaf cyfyngol yn cael eu defnyddio ble bynnag y bo’n bosibl a bod unigolion yn gallu deall eu hawliau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn gliriach.

Dylai unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol gael ei lunio ochr yn ochr gyda’r unigolion sydd â phrofiad byw o wasanaethau iechyd meddwl, cefnogaeth argyfwng, gwasanaethau defnydd sylweddau, ac adferiad yn gyffredinol. Mae eu mewnwelediad yn hanfodol i ddeall ble mae systemau’n creu rhwystrau ar hyn o bryd, a ble nad yw polisi bellach yn adlewyrchu’r realiti mae pobl yn ei wynebu.

See similar stories

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×