Mae ein hunaniaeth yn siapio ein profiad o’r byd, o’n diwylliant a’n cefndir a pha mor gyfforddus yr ydym yn teimlo yn gofyn am gefnogaeth. I Diverse Cymru, mae cydnabod a pharchu hunaniaeth pobl yn allweddol i greu gwasanaethau ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu deall, ac yn gallu ffynnu.
Fe siaradom gyda Samira Salter, Uwch Reolwr Gwasanaeth ar gyfer Hybiau Iechyd Meddwl a Llesiant, a Tony Hendrickson, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Cynllun Achrediad Cymhwysedd Diwylliannol, am waith y sefydliad, y rhwystrau mae rhai cymunedau’n parhau i’w hwynebu, a pam mae cynhwysiant yn dechrau gyda gweld pobl am bwy ydynt.
Mae Diverse Cymru wedi bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru ers blynyddoedd maith. Wedi ei ffurfio drwy uniad Awetu (Elusen Iechyd Meddwl Cymru gyfan i bobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig) a’r Coalition for Disabled People, sefydlwyd y sefydliad i herio gwahaniaethu ac i wella cydraddoldeb. Heddiw, fel rhan o Adferiad, mae’n parhau gyda’r genhadaeth honno, trwy wasanaethau arbenigol iechyd meddwl, a’i Gynllun Achredu Cymhwysedd Diwylliannol arobryn.
I Samira, mae cefnogaeth dda yn dechrau gyda phobl yn teimlo eu bod yn cael eu hadnabod fel unigolion.
“Pan mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u parchu am pwy ydynt, mae’n helpu i adeiladu ymddiriedaeth, diogelwch ac ymdeimlad o berthyn,” meddai. “Maent yn fwy tebygol o ymgysylltu’n agored, i chwilio am gymorth yn gynharach, ac i gadw cysylltiad gyda’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.”
Mae’r ymagwedd honno yn sail i wasanaeth Adfer Iechyd Meddwl Cyfle Cymru, sy’n darparu cymorth un i un wedi’i theilwra i bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n profi salwch meddwl. Trwy gymryd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y person, mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr gydag unigolion i’w helpu i gyflawni eu nodau, tra mae Cysylltwyr Cymunedol yn helpu pobl i gael mynediad i wasanaethau ac i adeiladu cysylltiadau cryfach o fewn eu cymunedau.
Ochr yn ochr gyda’r gwaith rheng-flaen yma, mae Tony hefyd yn arwain y Cynllun Achredu Cymhwysedd Diwylliannol, sy’n cefnogi sefydliadau i ddod yn fwy cynhwysol ac wedi eu paratoi yn well i gyfarfod anghenion cymunedau amrywiol. Ers ei lansiad yn 2018, mae’r cynllun arobryn wedi cefnogi mwy na 140 sefydliad ar draws Cymru trwy fframwaith strwythuredig sy’n helpu i ymgorffori cydraddoldeb a chynhwysiant mewn arfer dydd i ddydd.
“Dechreuwyd yr Achrediad fel rhan o’n hymrwymiad i weithio gydag yn hytrach na dim ond siarag gyda darparwyr gwasanaeth,” meddai Tony. “Credwn mewn ymagwedd gydweithredol i adnabod anghenion ac ymagweddau ar y cyd i fynd i’r afael â nhw.”
Boed yn cefnogi unigolion neu sefydliadau, mae nod Diverse Cymru yr un fath: cael gwared o’r rhwystrau. Gall pobl o gymunedau amrywiol wynebu heriau megis gwahaniaethu, rhwystrau iaith, stigma iechyd meddwl, neu nad ydynt yn gwybod i ble i droi am gymorth. Trwy gynnig cefnogaeth sy’n briodol yn ddiwylliannol a helpu sefydliadau i wella eu dealltwriaeth o’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, mae Diverse Cymru yn gweithio i wneud gwasanaethau’n fwy hygyrch, ymatebol a chynhwysol.
Mae Tony wedi’i galonogi gan yr ymrwymiad cynyddol i’r gwaith hwn ar draws Cymru, gyda mwy na 140 o sefydliadau yn cofrestru i’r Cynllun Achredu, er gwaethaf dadleuon ehangach ynghylch cydraddoldeb a chynhwysiant. I Samira, mae’r neges yr un mor glir: “Nid yw cynhwysiant ynghylch adnabod ein gwahaniaethau yn unig, mae’n ymwneud â sicrhau bod gan bawb gyfle cyfartal i gael mynediad i’r gefnogaeth maent ei hangen a chael eu trin gydag urddas, parch a thosturi.”
Yn ei graidd, mae gwaith Diverse Cymru yn ymwneud â sicrhau y gall pobl gael mynediad i gefnogaeth heb deimlo bod yn rhaid iddynt esbonio neu osod pwy ydynt i un ochr. Trwy adnabod hunaniaeth, herio anghydraddoldeb, a gweithio ochr yn ochr gyda chymunedau a sefydliadau, mae’r tîm yn helpu i adeiladu Cymru ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynnwys, ac yn gallu cael mynediad i’r gefnogaeth maent ei hangen.