Yn Adferiad, gwyddom y dylai hyfforddiant da fod yn ymarferol, yn berthnasol, ac yn ddefnyddiol. Mae ein Tîm Hyfforddi yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob cwrs maent yn ei ddarparu yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i bobl, sydd eu hangen arnynt yn eu rolau, boed nhw’n gweithio i Adferiad neu’n ymuno â ni o rhywle arall.
Mae’r adborth diweddar gan gyfranogwyr yn amlygu’r effaith bositif mae ein hyfforddiant yn ei gael ar draws ystod o wasanaethau.
Dywedodd un mynychwr:
"Rwy’n dal yn gynhyrfus ar ôl yr hyfforddiant yma. Roedd mor ysbrydoledig ac yn ysgogi’r meddwl, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mwynheais hwn YN FAWR, Diolch i chi."
Canmolodd eraill yr ymagwedd ymgysylltiol a rhyngweithiol a gymerwyd gan ein hyfforddwyr:
"Ymgysylltiol, craff, cyflymder da, hwyliog, wedi rhagori ar fy nisgwyliadau!"
"Roedd yr Iechyd Meddwl a’r Defnydd Sylweddau yn anhygoel. Diolch i chi am yr hyfforddiant. Roedd yr hyfforddwr yn ymgysylltiol ac yn wybodus."
I’n Tîm Hyfforddi, mae creu amgylchedd ble mae pobl yn teimlo’n rhan ohono, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu hysgogi, yr un mor bwysig a’r cynnwys ei hun. Trwy gyfuno gwybodaeth arbenigol gyda dysgu ymarferol, rhagweithiol, maent yn helpu cyfranogwyr i adeiladu hyder ac i ddatblygu sgiliau y gallent eu cymhwyso yn syth.
Disgrifiodd un cyfranogwr yr effaith roedd yr hyfforddiant wedi ei gael ar eu gwaith o ddydd i ddydd:
"Rwyf wedi rhoi rhai o’r technegau ar waith yn barod yn ystod apwyntiadau ddoe... Rwyf yn teimlo fy mod yn well Mentor gyda’r sgiliau hyn. Rwyf hefyd wedi cael fy ysgogiad i fy hun yn ôl."
Un o’r sylwadau mwyaf calonogol a rannwyd oedd:
"Ar raddfa o 1–10 pa mor bwysig ydw i’n meddwl yw hi bod pawb yn gwneud yr hyfforddiant hwn? 10!!"
Mae sylwadau o’r fath yn adlewyrchu ymroddiad ac arbenigedd Tîm Hyfforddi Adferiad. Mae eu hangerdd am ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel yn helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus, yn fwy galluog ac ysbrydoledig.
Rydym wastad yn falch o glywed sut mae ein hyfforddiant wedi cefnogi pobl yn eu rolau, ac rydym yn hynod falch o’n Tîm Hyfforddi am barhau i ddarparu sesiynau ymgysylltiol, ymarferol sy’n gadael effaith barhaol.
I ddarganfod mwy am ein hyfforddiant yma yn Adferiad, cliciwch yma os gwelwch yn dda https://www.adferiad.org/about-us/what-we-do/training/