Yr Achos dros Gefnogaeth Integredig yng Nghymru

Yr Achos dros Gefnogaeth Integredig yng Nghymru

Wrth i Gymru groesawu llywodraeth newydd, mae yna gyfle i ailfeddwl sut darperir cefnogaeth i bobl sy’n profi materion iechyd meddwl a defnydd sylweddau sy’n cyd-ddigwydd.

Er gwaethaf y gydnabyddiaeth gynyddol o’r berthynas rhwng iechyd meddwl a defnydd sylweddau, mae gwasanaethau yn parhau i gael eu comisiynu a’u darparu ar wahân yn rhy aml. I lawer o bobl, mae hyn yn creu llwybrau darniog i mewn i gefnogaeth a rhwystrau diangen yn y pwynt ble mae’r angen mwyaf am gymorth.

Yn Adferiad, credwn bod yn rhaid i integreiddio gwasanaethau iechyd meddwl a defnydd sylweddau ddod yn flaenoriaeth graidd i Lywodraeth newydd Cymru. 

System sydd ddim yn adlewyrchu bywydau pobl

Ar draws Cymru, yn aml, cynghorir pobl sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd bod yn rhaid mynd i’r afael ag un mater cyn gallu trin un arall. Yn ymarferol, gall hyn olygu bod rhywun yn cael gwybod bod yn rhaid i’w defnydd sylweddau sefydlogi cyn iddynt gael mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl, tra gallai gwasanaeth arall fod yn ystyried eu hanghenion iechyd meddwl wedi’i cuddio gan eu defnydd sylweddau.

Nid yw’r ymagwedd yma yn adlewyrchu realiti anghenion sy’n cyd-ddigwydd ac fe all arwain i oedi’r ymyrraeth, ailadrodd asesiadau a dyblygiad, dilyniant gwael mewn gofal, gwaethygiad i argyfwng, a datgysylltiad o gefnogaeth yn gyfan gwbl.

Yn aml, mae’r heriau hyn yn dwysau i bobl sy’n profi digartrefedd, trawma, anghydraddoldebau, neu gysylltiad gyda’r system gyfiawnder troseddol. 

Tra roedd Llywodraeth flaenorol Cymru wedi gwneud ymrwymiadau pwysig o amgylch ataliaeth a gofal person-ganolog trwy ddeddfwriaeth megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’r integreiddiad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a defnydd sylweddau yn parhau i fod yn anghyson ac yn ddarniog.

Pam mae integreiddiad yn bwysig

Yn anaml y mae heriau iechyd meddwl a defnydd sylweddau yn bodoli ar wahân. Yn aml maent yn cael eu siapio gan ffactorau cymdeithasol ehangach neu hyd yn oed y naill a’r llall.

Nid yw gofal integredig, felly, ynghylch gwella cyfathrebu rhwng gwasanaethau yn unig. Yn bwysicach, mae’n ymwneud â dylunio systemau o amgylch sut mae pobl yn profi heriau ac anghenion go iawn.

Gall ymagwedd fwy cyd-gysylltiedig wella mynediad i gefnogaeth, lleihau dyblygiad ar draws systemau, cefnogi ymyrraeth gynharach, gwella deilliannau adferiad tymor hir, a lleihau pwysau osgoiadwy ar wasanaethau brys ac acíwt.

Yn arwyddocaol, mae integreiddio hefyd yn cefnogi defnydd mwy effeithiol o adnoddau cyhoeddus yn ystod amser pan mae yna alw cynyddol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr hyn y mae Adferiad yn galw amdano

Fel rhan o’n blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru, rydym yn galw am ymagwedd genedlaethol gydlynol i gefnogaeth integredig iechyd meddwl a defnydd sylweddau.

Gwasanaethau sy’n gweithio gyda’i gilydd

Dylai pobl sy’n profi anghenion sy’n cyd-ddigwydd dderbyn cefnogaeth gyd-gysylltiedig drwy lwybr sengl, cynllunio gofal integredig, a dulliau amlddisgyblaethol ar draws gwasanaethau iechyd meddwl a defnydd sylweddau.

Ni ddylai unrhyw un gael eu gadael allan heb gefnogaeth oherwydd bod eu hanghenion yn croesi ffiniau gwasanaeth traddodiadol.

Llwybrau wedi’u symleiddio a’u lliniaru

Gall y systemau presennol fod yn anodd i’w llywio, yn enwedig yn ystod cyfnodau o ansefydlogrwydd neu argyfwng.

Rydym yn galw am:

  • Lwybrau atgyfeirio syml
  • Leihau dyblygiad mewn asesiadau a phrosesau
  • Fynediad clir ar draws gwasanaethau
  • Well dilyniant rhwng darparwyr a sectorau

Ni ddylai pobl orfod llywio nifer o systemau anghysylltiedig i gael mynediad i gefnogaeth

Hwb cymunedol ac ymagwedd “dim drws anghywir”

Dylai cefnogaeth fod yn hygyrch, yn gymunedol, ac yn ffocysu ar ataliaeth ac ymyrraeth gynnar.

Rydym yn ymgyrchu dros fodelau hwb cymunedol cryfach ar draws Cymru sy’n dod â thimau amlddisgyblaethol at ei gilydd trwy ymagwedd “dim drws anghywir”, gan sicrhau bod pobl yn cael eu cysylltu i’r gefnogaeth gywir pryd bynnag y maent yn gofyn am help.

Symud o ymrwymiad i gydlyniad

Mae yna gonsensws cynyddol bod angen ymatebion cydlynol i anghenion sy’n cyd-ddigwydd. Ond, mae integreiddiad gwirioneddol angen mwy nac uchelgais strategol yn unig.

Mae gweithrediad yn gofyn am fuddsoddiad parhaus, atebolrwydd ar y cyd, gweithio’n gryfach mewn partneriaeth, a chynhwysiant ystyrlon profiad byw o fewn dylunio polisi a’r gwasanaeth.

Byddwn yn parhau i eirioli am wasanaethau sy’n integredig, yn berson-ganolog, ac wedi eu hadeiladu o gwmpas realiti bywydau pobl.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein hymgyrch.

See similar stories

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×