Yr unigryw MICHAEL SHEEN yw Noddwr newydd Adferiad Recovery!

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi mai’r actor Cymreig, Michael Sheen – ie, Michael Sheen! – yw Noddwr newydd Adferiad Recovery. Yn ei rôl, bydd Michael yn hyrwyddo ein hachos ac yn amlygu ei gwaith hanfodol ar draws Cymru.

Ar 1af Ebrill 2021, roedd y pedair elusen – Adferiad Recovery, CAIS, Hafal a’r WCADA – wedi uno i greu Adferiad Recovery, sef mudiad newydd a fydd yn cynnig cymorth i bobl fregus yng Nghymru a’u teuluoedd a gofalwyr. Bydd Adferiad Recovery yn ffocysu’n benodol ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau’n camddefnyddio sylweddau, a’r rhai hynny sydd ag anghenion cymhleth ac sy’n cyd-ddigwydd. Darllenwch mwy yma.

Dywedodd Michael Sheen: Dywedodd Michael Sheen: “Mae’r cyfnod hwn mor anodd mewn cynifer o ffyrdd ac mae rhaid i bawb ohonom addasu wrth i ni symud ymlaen. Rwyf mor hapus i fod yn Noddwr ar yr elusen newydd Adferiad Recovery gan ei bod yn dwyn ynghyd nifer o ffynonellau o gymorth a phrofiad er mwyn mynd i’r afael gyda’r heriau sydd o’n blaenau. Da iawn i bawb sydd yn rhan o hyn a diolch o galon i’r tîm yn Allen & Overy LLP gan fod eu cymorth pro-bono wedi bod yn amhrisiadwy.”

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad Recovery: “Rydym wrth ein bodd bod yna eicon Cymreig gennym fel ein Noddwr ac yn hynod ddiolchgar am ei amser a’i gymorth.

“Mae Adferiad Recovery yn darparu gwasanaethau hanfodol i rai o’r bobl fwyaf bregus yng Nghymru. Drwy ddod yn Noddwr, bydd Michael yn helpu ni amlygu nid yn unig y gwaith pwysig yr ydym yn darparu ar draws y 22 sir ond hefyd y problemau niferus sydd yn effeithio ar ein grŵp cleient ac sydd angen brys.

“DIOLCH YN FAWR, Michael, gan ein holl gleientiaid, Aelodau, gwirfoddolwyr a staff!”

See similar stories

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl
  • Mental Health & Wellbeing

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?
  • Adferiad

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw
  • Counselling
  • Mental Health & Wellbeing
  • Crisis Services

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×